
HANES
Y wahanol iawn i nifer o bentrefi yng Nghymru nid yw enw’r pentref a’r eglwys yn cyfateb. Credir i’r pentref gael ei enwi ar ôl Darog a oedd yn swyddog i Hywel Dda neu yn pennaeth Celtaidd lleol, felly - Llanddarog
Mae'r Eglwys wedi'i chysegru i Sant Twrog, sant Celtaidd a oedd yn ôl pob golwg yn fwy gweithgar yng ngogledd Cymru. Mae'r gofrestr gynharaf yn dyddio o 1736. Credir iddi gael ei hadeiladu ym 1854 ar safle hen Adeilad ardfeiliedig blaenorol i gynllun gan R K Penson (1816-1886). Yng nghanol y 19eg ganrif, Kyrke Penson oedd Syrfëwr Sir Gaerfyrddin.
Mae'r twr, gyda cheiliog tywydd ar ei ben, yn dirnod lleol gan y gellir ei weld am filltiroedd, ar 150 troedfedd o uchder.
“Llanddarog enwog iawn ydwyd – yn uchder
Dy glochdy’th neillduwyd,
Caer hirsyth yn creu arswyd
O Sir Gâr i’r ser a gwyd.” (Anon)
Daeth Iolo Morganwg i Landdarog ym 1796 a'i ddisgrifio fel “pentref gydag eglwys fawr o adeiladwaeth arw iawn, sydd ag ysgol ynddi, peth cyffredin yng Nghymru”.
TU FEWN YR EGLWYS
Mae'r Eglwys wedi elwa llawer ar roddion dros y blynyddoedd. Un eiddo balch yw cwpan cymun arian, Gwaith gôf arian o Gaerfyrddin ac a gredir ei fod yn rhodd gan Elisabeth I mewn diolchgarwch i'r plwyfi hynny a roddodd gymorth milwrol i'w thaid Harri VIII, i ennill Brwydr Bosworth ym 1485. Mae'r arysgrif 'Poculum ecclesie de Llanddaarog' arno. Roedd Plwyf Llanddarog wedi rhoi cymorth sylweddol i Syr Rhys Ap Thomas, a osododd y goron ar ben Harri ar y maes, gan ei wneud yn frenin Tuduraidd cyntaf.
.jpeg)
Wrth fynd drwy'r porth i mewn i'r Eglwys, mae'r bedyddfaen ar y chwith. Mae ffenestr y Bedyddfa yn darlunio Ioan Fedyddiwr yn bedyddio Iesu.
Yn uchel uwchben y bedyddfaen, mae'r ffenestr orllewinol yn darlunio bywyd Llanddarog. Yn y panel ar y chwith dilynwn waith tymhorol y ffermwr ac yn y panel ar y dde fywyd y colier, dwy alwedigaeth a oedd mor allweddol ym mywyd y gymdeithas yng Nghwm Gwendraeth. Mae’r panel yn y canol yn portreadu’r Eglwys yn y gymuned, ei dylanwadau ysbrydol a’i gwahanol weithgareddau.
Gan barhau ar hyd cefn yr eglwys mae drws yn arwain i'r ystafell wrth waelod y twr a'r 30 gris i fyny at y cloch. Mae'r twr yn dal un gloch, dyddiedig 1856 a gastiwyd yn Llundain. Wrth droi i lawr yr eil ochr, mae'r bwrdd deiliad yn nodi mai curadiaid oedd y deiliaid cynharaf (gan ddechrau ym 1720) gyda'r ficer cyntaf wedi'i restru ym 1873.
.jpeg)
CORFF YR EGLWYS
Mae'r darllenfa bres ar ffurf eryr yn mynd â gair Duw i'r byd (a gynrychiolir gan y bêl yn ei grafangau) ar y dde wrth i chi adael y Gangell.
Mae'r ffenestr ar y chwith ger y pulpud yn cynrychioli Crist y Bugail ac mae'r ffenestr nesaf yn dangos 'Coeden y Bywyd' (John Petts).

Y GANGELL
Mae'r cannwyll y Pasg yn cynrychioli bywyd newydd.
Mae drws yn arwain i mewn i'r festri lle mae'r deiliad yn gwisgo'r urddwisgoedd cyn cynnal gwasanaethau. Cedwir cofnodion bedyddiadau ac angladdau yma.
Mae’r ffenestr fechan yn darlunio Salm 150.
Gosodwyd yr organ bibell ym 1954.
.jpeg)
CYSEGR
Mae'r Cysegr yn dal croes orymdeithiol a Baner Undeb y Mamau.
Uwchben yr allor mae ffenestr yr atgyfodiad.
I’r dde mae ffenest y Swper Olaf.

CAPEL PUXLEY

Y teulu Puxley oedd perchnogion tir lleol, gan brynu'r ystâd ym 1825. Nhw oedd yr unig rai i eistedd yn y rhan hon o'r Eglwys. Yn gefnogwyr y Gymdeithas Ddirwestol, Cymdeithas Gyfeillgar i Ferched a noddwyr Eglwys Llanddarog, daethant o Gastell Dunboy, Swydd Cork. Mae mynediad i gromenni Puxley o dan yr eil o'r tu allan i'r Eglwys.
Mae gan Gapel Puxley hen stôf glo haearn wedi’i gastio ar y dde wrth i chi fynd trwy'r sgrin bren, a oedd yn cynhesu'r capel hwn yn y gaeaf.
Mae'r ffenestr gyntaf ar y chwith o bortread o Mrs Catherine Puxley (yr olaf o'r teulu i fyw yn Llethr Llestri, cartref y teulu), yn 18 oed ac mae'n darlunio Santes Catrin yn dal yr olwyn!
Mae'r ffenestr ganol yn darlunio Sant Columba, sant Gwyddelig. Y drydedd ffenestr yw un o Sant Ioan yr Efengylwr, gyda'r sgrôl yn cynnwys geiriau o Ioan 1 adnod 1.
Gelwir ffenestr y geni uwchben yr allor yn ffenestr lwyd (o'r Ffrangeg grisaille sy'n golygu di-liw), gyda seren ar y brig yn disgleirio'n llachar yn haul y bore.
Mae carreg goffa i Edward Vaughan (1705-1736) o Llethr Llestri, yr olaf o linach Vaughan i fod yn berchen ar Llethr Llestri. Roedd yn or-or-ŵyr i Hugh Vaughan (bu farw 1613), y cyntaf o linach Vaughan yn Llethr Llestri.
Defnyddir Capel Puxley ar gyfer rhai gwasanaethau yn ystod yr wythnos, y Clwb Iau ac fel festri gwisgoedd i'r côr. Dyma hefyd lle mae'r briodferch a'r priodfab yn mynd i lofnodi'r gofrestr ar ôl seremoni briodas.
























